Neidio i'r prif gynnwy

Y dystiolaeth gyntaf o'r frech goch yn lledaenu yn y gymuned, wrth i achosion godi yn y brigiad yng Ngwent.

Cyhoeddig: 26 Ebrill 2024

Mae swyddogion iechyd cyhoeddus o'r farn bod y frech goch yn lledaenu yn y gymuned yng Ngwent gyda naw achos o'r frech goch wedi'u cadarnhau bellach. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog rhieni a gofalwyr i sicrhau bod eu plant yn cael eu brechu'n llawn â dau ddos o'r brechlyn MMR i osgoi dal y frech goch.  

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i nodi cysylltiadau'r holl achosion ac wedi rhoi cyngor iddynt ar ba gamau i'w cymryd a gwybodaeth am arwyddion a symptomau'r frech goch.  Mae'r holl gleifion yn derbyn gofal priodol.  

Mae Beverley Griggs, Ymgynghorydd mewn Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Chadeirydd y Tîm Rheoli Brigiad amlasiantaeth, yn amlygu'r rôl y gall rhieni ei chwarae wrth atal lledaeniad y frech goch drwy frechu.  

“Mae'r frech goch yn glefyd heintus iawn a gall fod â chymhlethdodau difrifol, yn enwedig i fabanod, y rhai sydd â systemau imiwnedd gwannach, a menywod beichiog. 

“Gellir atal y frech goch drwy'r  brechlyn MMR hynod effeithiol a diogel. Dylai rhieni a gofalwyr nodi efallai y bydd angen i blant nad ydynt wedi derbyn cwrs llawn o MMR gael eu tynnu o'r ysgol am hyd at 21 diwrnod, os ydynt yn cael eu nodi fel cyswllt achos o'r frech goch.  Rydym yn deall y gall hyn effeithio ar blant sydd i fod i sefyll arholiadau yn fuan a byddem yn gofyn am gymorth parhaus rhieni i atal achosion pellach o'r frech goch yn y gymuned. 

“Yn ogystal, anogir oedolion nad ydynt erioed wedi cael y frech goch na'r brechlyn MMR ac sydd mewn cysylltiad agos â phlant i sicrhau eu bod yn siarad â'u meddyg teulu am frechu.” 

Meddai'r Athro Tracy Daszkiewicz, Cyfarwyddwr Gweithredol  Iechyd Cyhoeddus ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: 

“Byddwn yn gofyn i'r holl rieni yng Ngwent sicrhau bod eu plant wedi derbyn eu brechiadau MMR ar yr oedran priodol – hynny yw, y dos cyntaf tua 12 mis oed gyda'r ail ddos atgyfnerthu pan fyddant yn dair a phedwar mis oed.   Fodd bynnag, os nad yw eich plentyn wedi cael y brechlyn MMR eto, gall barhau i ddod ymlaen i gael ei frechlyn. Nid yw byth yn rhy hwyr i gael eich brechu. 

“Mae'n hawdd iawn i rieni wirio statws brechu eu plentyn, gallant edrych ar eu llyfr coch, neu fynd i wefan eu bwrdd iechyd lleol. Os ydynt yn byw yng Ngwent, gallant ffonio'r tîm brechu ar 0300 303 1373 i drefnu brechlyn MMR. 

“Rwyf hefyd yn annog pobl i fod yn ymwybodol o'r symptomau cynnar sy'n cynnwys; tymheredd uchel, peswch, trwyn yn rhedeg, llid yr amrannau (llygaid poenus, coch) ac weithiau smotiau gwyn bach ar y tu mewn i'r geg. Os ydych yn amau'r frech goch, arhoswch gartref a chysylltu â'ch meddyg teulu i drefnu apwyntiad brys neu ffoniwch 111.”  

Ceir rhagor o wybodaeth am y brechlyn MMR yn https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/y-frech-goch-clwyr-pennau-a-rwbela-mmr/