Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru yn archwilio sut i wneud y gorau o rôl bwyd ysgol wrth hyrwyddo maeth a lleihau anghydraddoldebau iechyd

Cyhoeddig: 25 Ebrill 2024

Mewn ymgais i wella iechyd a llesiant plant a phobl ifanc ledled Cymru, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi adroddiad newydd

yn manylu ar sut y gallwn wneud y gorau o rôl bwyd ysgol wrth hybu maeth a lleihau anghydraddoldebau iechyd.

Mae'r adroddiad yn gweithredu fel glasbrint i feithrin cyd-ddealltwriaeth y mae rôl bwyd ysgol yn ei chwarae wrth lunio iechyd a llesiant plant. Ymchwilia i wahanol agweddau, gan gynnwys cyd-destun hanesyddol bwyd ysgol fel ymyriad iechyd y cyhoedd, trosolwg o’r system bwyd ysgol bresennol yng Nghymru, ac arferion deiet a statws iechyd cyffredinol plant oed ysgol yn y rhanbarth. At hynny, mae'n tanlinellu effeithiau tymor byr, canolig a hir posibl bwyd ysgol ar iechyd a llesiant.

Pwysleisia’r adroddiad arwyddocâd sefydlu dulliau bwyd ysgol iach effeithiol i greu amgylcheddau ffafriol ar gyfer iechyd a llesiant plant a

phobl ifanc. Amlyga sawl mantais, yn cynnwys mynediad teg at fwyd maethlon, meithrin arferion deietegol cynaliadwy a chefnogi cyrhaeddiad addysgol.

Dywedodd Rachel Bath, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae Cymru ar adeg dyngedfennol lle mae angen

ymdrechion ar y cyd i fanteisio ar botensial bwyd ysgol i wella iechyd a llesiant ei hieuenctid. Heb gynnydd parhaus a gweithredu ar y cyd, efallai na fydd yr effaith ddofn y gall bwyd ysgol ei chael ar iechyd a llesiant plant yn cael ei gwireddu.”

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru ar fin cydweithio â rhanddeiliaid i ddatgloi potensial llawn bwyd ysgol, a thrwy hynny wella canlyniadau iechyd ac addysgol a lliniaru anghydraddoldebau.

I gydnabod pŵer trawsnewidiol bwyd ysgol, eglura Rachel Bath: “Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio ffrwd waith bwrpasol sy’n

canolbwyntio ar wella amgylchedd bwyd ysgol. O dan faner “Gweithio Gyda’n Gilydd dros Amgylchedd Bwyd Ysgol Iachach”, nod y fenter hon yw ysgogi ymdrechion ar draws sectorau i greu amgylcheddau sy’n hybu arferion bwyta’n iach a chanlyniadau iechyd cadarnhaol ymhlith plant a phobl ifanc yng Nghymru.”

Wrth i Gymru gychwyn ar y daith uchelgeisiol hon i harneisio potensial o fwyd ysgol, bydd cydweithio a gweithredu ar y cyd yn allweddol. Drwy roi blaenoriaeth i iechyd a llesiant ei hieuenctid, mae Cymru nid yn unig yn buddsoddi mewn dyfodol iachach ond hefyd yn paratoi’r ffordd ar gyfer cymdeithas decach a mwy llewyrchus.