Y gwanwyn yma, bydd brechiad COVID-19 yn cael ei gynnig rhwng mis Ebrill a mis Mehefin i'r rhai sydd ei angen. Nod y rhaglen frechu COVID-19 yw gwarchod pobl rhag salwch difrifol oherwydd feirws COVID-19.
Wrth i ni barhau i adfer o'r pandemig, ein nod ni yw cynnig y brechiad i'r bobl sy’n wynebu’r perygl mwyaf o afiechyd difrifol ac sydd felly fwyaf tebygol o elwa o’r brechiad. Mae COVID-19 yn fwy difrifol mewn pobl hŷn ac mewn pobl sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol penodol. Wrth i COVID-19 barhau i gylchredeg yng Nghymru, mae’n bwysig iawn eich bod chi neu eich plentyn yn cael eich gwarchod (os ydych chi’n gymwys), er mwyn lleihau’r risg o fod angen triniaeth ysbyty.
Efallai y byddwch chi’n gallu cael brechiad COVID-19 y gwanwyn yma os ydych chi mewn mwy o berygl o fynd yn ddifrifol wael oherwydd COVID-19, er enghraifft, oherwydd cyflwr iechyd neu eich oedran. Bydd eich bwrdd iechyd GIG lleol yn cysylltu â chi os ydych chi’n gymwys i gael brechiad COVID-19 y gwanwyn.
Gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n oedi cyn cael eich brechiad COVID-19 os cewch eich cynghori i wneud hynny. Mae'n bwysig cael eich brechiad i'ch gwarchod chi rhag salwch difrifol.